Page images
PDF
EPUB

PREGETH XIV.

Y WRAIG WEDDW GERLLAW PORTH NAIN

Luc vII. 11, 12, 13. 14, 15.

A bu drannoeth, iddo Ef fyned i ddinas a elwidNain; a chyd ag Ef yr aeth llawer o'i ddisgyblion,a thyrfa fawr. A phan ddaeth Efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn, oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd a hi. A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla. A phan ddaeth attynt, Efe a guffyrddodd a'r elor (a'r rhai oedd yn ei dwyn a safasant) Ac Efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod. A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac Efe a'i rhoddes i'w fam.

And it came to pass the day after, that He went into

a city called Nain; and many of his disciples went with Him, and much people. Now when He came nigh to the gate of the city, behold, there was a dead man carried out, the only son of his

mother, and she was a widow: and much people

of the city was with her.

And when the Lord

saw her, He had compassion on her, and said unto her, weep not. And He came and touched the bier; and they that bare him stood still. And He said, young man, I say unto thee, arise. And he that was dead sat up, and began to speak. And He delivered him to his mother.

Ni ddichon meddwl dyn ddychymmygu un

rhyw beth yn fwy buddiol, nag iddo ddilyn Ilwybrau ein Hiachawdwr, a golygu ar ddibennion a gweithredoedd y gallu goruch-naturiol a wnaeth i laweroedd synnu o'u herwydd-na dim yn fwy llesol, nag iddo glywed pa mor berffaith-hynod yr ydoedd Efe gynt yn distewi ac yn cywilyddio doethion y byd

iddo

weled, pa mor ragorol yr ydoed Efe yn gwneuthur i'r llywodraethwyr a'r barnwyr awdurdodol ofni, ac hefyd, pa mor addfwyn yr ydoedd Efe, yn ymostwng i hyfforddi y rhai tlodion, ac i hoffi diniweidrwydd caredig y rhai ieuaingc iddo edrych ar Fab Duw, yr hwn, er iddo gael ei ddirmygu a'i ddïysturu gan ddynion; etto Efe a reolodd weithrediadau naturiaeth:iddo ganfod y gwyrthiau, a dealk yr athrawiaethau, a oeddynt gynt ac ydynt yn. awr yn fendithion i'r byd, yn datguddio dir

gelion y Nefoedd, gymmaint ag y gallai, ac y geill llygredig ddeall dynion gynnwys y datguddiad hyfryd.

Ac er mai un genhedlaeth annïolchgar a gâdd fwynhâu 'r fath ragor-fraint dra gwerthfawr, a chymmeryd ei chyfran o'r fath addysg a chyfarwyddyd tra hyfryd; etto nyni a gawsom wyb odaeth am y gweithredoedd rhyfedd anghyffredin yma trwy ymadroddion tra syml, pur a didwyll. Er nad oes gennym ni mo'r rhagorfraint i graff-edrych ar yr Effeithiau o honynt y pryd a'r amser y danghoswyd hwy, ac i'w holrhain at y rhai a'u gwelsant ac a'u profafant; etto nyni a gawsom y fraint o fod gynnym hanesion mor oleu a chywir, ag y mae braidd yn ammhossibl iddynt wneuthur gau argraphiadau ar ein meddyliau, ond a'n gadawant i farnu, fel y gwnelo rheswm dywys ein hymofynniadau ffyddlon. Pe buasai 'r ragor-fraint honno gennym, gyd ag hyfrydwch annhraethadwy y dilnasai y rhai duwiol-fryd eu Gwaredwr Jesu Grist trwy holl orchwylion ei fywyd gwyrthiol: a gallasai y rhai craff myfyriol-fryd benderfynu y daliadau gwrth-ddadleugar croesion a ymrannasant hên drigolion y byd, ac sydd etto yn ymrannu meddylian y trigolion presennol. Gallasai'r argraphiad a wnaed ar y rhai ydoedd yn ddïattreg yn craff-edrych, fod yn fwy pender

fynol; a dïammau ydyw bod gan y rhai a gydymddiddanasant â disgyblion ein Harglwydd Jesu eglurach gwybodaeth am y Gallu rhyfeddol, a oedd ganddo Ef i hyfforddi dynion, nag a ellir gael oddi wrth eu hysgrifenniadau. Pa fodd bynnag, cyn rhoddi 'r Yspryd Glan, yr oeddynt hwy (megis y maent yn ddi-dwyll yn cyfaddef) i gyd-oll heb eu goleuo.

Ymhlith y llïosog wyrthiau, prydferth-rag orol a goffhêir yn yr Efengyl, y rhai sy 'n cynhyrfu meddyl-fryd calon dyn, nid oes yr un, ysgatfydd, o ran budd, symlrwydd, a godidowgrwydd, yn rhagori ar y weithred wyrthiol a wnaed ger Ilaw porth y ddinas Nain. Pan oedd yr Jesu yn myned i mewn i'r ddinas, Efe a gyfarfu â gwraig weddw, yr hon oedd fam ofidus, a chyd â hi dorf o alarwyr, yn myned i gyflawni 'r gwasanaeth galarus diweddaf er coffadwriaeth am ei hunig fab. Ein Harglwydd, pan welodd ei gofid, a dosturiodd wrthi hi: o herwydd mai 'r mab hwnnw, ysgatfydd, ydoedd yn cynnal ei fam oedranus:mai efe ydoedd, trwy ei ddiwydrwydd, yn ei chadw rhag eisiau: -mai efe ydoedd, trwy ei ofal, ei ufudddod, a'i garedigrwydd, yn ymrôi i chwalu gerwindeb ei gofalon, i esmwythâu arni, ac i'w diddanu yn ei henaint. Anamgyffredadwy ydyw 'r hyfrydwch o dderbyn cymmwynas

Y

gan y rhai yr ydym yn eu caru: y sawl sydd, fel y wraig weddw hon, yn cael eu gwobrwyo am eu holl bryderus ofalon serchog trwy hyfryd ufudd-dod eu caredig blant, y rhai hynny yn unig a allant gyd-deimlo ei boddlonrwydd hi. Rhoddi cymmwynas i'r rhai yr ydym yn eu hoffi, neu gael cymmwynas ganddynt hwy, prifachos o brofiadau odiaeth ydyw hynny. neb a wnelo gymmwynas, a gaiff gymmwynas. Y mae plant, amryw droiau, yn ́ ́ ad-dalu 'r dyled sydd arnynt am eu hyfforddiad, pan fyddont yn gwobrwyo'r pryderus ofalon parhâus a deimlwyd tra 'r oeddynt yn ieuaingc, trwy fod yn ofalus ac yn ufudd, yn garedig ac yn ffyddlon i'w rhieni yn eu henaint, pan fyddo 'r byd, gan nad oes ganddo ond ychydig ammheuthyn, yn rhoddi iddynt hwy ond ychydig fwyniant: pan yn unig y gallo 'r ad-feddyliad am y dyddiau a aeth heibio, ac am y dyddiau y bucheddasant yn dduwiol, yn ddaionus ac yn wir-gristianogol, roddi boddlonrwydd iddynt hwy: pan fyddo gofidiau anocheladwy, a mynych siommedigaethau yn tywyllu ac yn chwerwi 'r dyddiau diweddaf o'n heinioes pan y lleihêir ein holl lawenydd, ac y collom y tuedd-fryd i ymhelaethu am ragor: pan fyddo afiechyd yn ein dirboeni, a pheiriannau y bywyd yn nychu: pan fyddo pelydr diweddaf y gobaith am fyw yn y byd yma yn machlud yn y bêdd; a phan fyddo pelydr y

« PreviousContinue »