Page images
PDF
EPUB

garedd gymmaint, etto nyni a wnawn yn deilwng, mor deilwng ag y dichon creaduriaid dynol, gymmeryd y Sacrament hwn.-Ond os gwnawn ni, a ni yn annheilwng o drugaredd gymmaint, ei gymmeryd yn annheilwng, hynny yw, mewn modd annuwiol ac anweddus, heb olygu ar ei rag-arfaeth na'i Sancteiddrwydd ychwaith; heb edifarhâu am ein pechodau a aeth heibio, heb fwriadu gwellhâu o hyn allan, ac heb fod gennym ddim hyfryd a diolchgar gariad serchog tu ag at ein Iachawdwr, yr hwn a fu farw drosom ni; yna, "yr ym" ni, yn dra chyfiawn, "yn annog digofaint Duw i'n "plâu ag amrafael glefydau ac amryw fâth ar angeu."

[ocr errors]
[ocr errors]

Y sawl sydd yn wir-deimladwy o'u hannheilyngdod eu hunain, y rhai hynny, yn wir, yw 'r dynion yr arfaethwyd y Sacrament hwn iddynt, ac er llês iddynt hwy yr ordeiniwyd ef. Pe na buasem ni oll yn bechaduriaid, ni buasai yn anghenrheidiol rhoddi i ni y fath foddion Grâs. Ni ddaeth Crist i alw y rhai cyfiawn, "ond pechaduriaid i edifeirwch. Nid rhaid i'r "rhai iach wrth feddyg ond i'r rhai cleifion." Gwrthod dyfod i Sacrament Swpper yr Arglwydd, o herwydd ein bod yn gweled ein hunain yn annheilwng, fe fyddai hynny cyn galled, a gwrthod derbyn cardodau, pan fyddom mewn

Bb

[ocr errors]

tlodi, o herwydd ein bod yn eithaf tlodionfe fyddai hynny cyn galled, a gwrthod cymmeryd physygwriaeth, o herwydd ein bod yn gleifion enbydus. Ond os ydym ni yn wir-deimladwy o'n hannheilyngdod, ac os cynhyrfwyd a darostyngwyd ni yn ddyladwy, y mae 'r ymddarostyngiad a'r ymgrymmiad yma yn dangos, y dylem ni yn fwy taer a difrif ymbil am gynnorthwy gan Dduw. Ac os gwnaeth ein Prynwr tosturiol ysprydoli 'r rhai sydd a'u calonnau yn ddrylliog ac yn gystuddiedig, y rhai “ sydd yn flinderog ac yn llwythog," i ddyfod atto, fel yr esmwythâo Efe arnynt hwy: os addawodd Efe, "pe byddai eich pechodau fel ysgarlad," yrant cyn wynned a'r eira; pe cochent fel "porphor," y byddant fel gwlan;" pa ynfydrwydd a gwallgof ydyw i ni oedi cymmeryd ac iawn-defnyddio moddion yr Iachawdwriaeth? Gosodedig foddion Grâs ydyw Ordinhâdau crefydd: a'r bwysfawroccaf a'r Ordinhâdau hynny, 'ydyw Swpper yr Arglwydd. Cyflawni 'r dyledswyddau gosodedig yw 'r ffordd a'r modd i ni gael Iachawdwriaeth a chadw coffadwriaeth ddifrif-ddwys am yr Aberth bendigedig hwn, yw 'r bwysfawroccaf o'r dyledswyddau hynny. Po mwyaf annheilwng y gwelom ein hunain, mwya 'i gyd fydd ein hangen am gyfnerth y moddion yma, a'r holl foddion eraill o Râs :fel y gallom ymgryfhâu ac ymgadarnhâu yn ein

bwriadau da: fel y gallom orchfygu rhuthriadau temptasiynau ac fel y gallom, trwy ad-gym-muno yn fynych, fod yn fwy-fwy teilwng i adgymmeryd y Sacrament hwn.-Os ydym ni yn wir-deimladwy o'n pechodau, ac yn bwriadu. eu gadael; y Sacrament hwn, fel gweddi, a'r dyledswyddau crefyddol eraill, yw 'r moddion i ni gael gwir-edifeirwch, ac i'n cadarnhâu a'n sicrhau ynddo. Os bu Crist farw drosom, fel y byddem ni byw, pa beth a ddichon mor gadarn-nerthol fywhâu ein ffydd ni ynddo Ef, ag iawn-ystyried ei farwolaeth Ef? Os ydyw marwolaeth a dioddefaint Crist yn dangos yn oleu i ni, fod pechod " yn dra phechadurus," ac yn beryglus ofnadwy; pa beth a ddichon, yn y fath fodd, wneuthur i ni ei ffieiddio ac ymadael ag ef; ac yn y fath fodd ein rhwymo i lwyrroddi ein meddyliau ar rag-olygiadau rhagorach, a dwyn y drych a'r arddangosiad a osodir mor gynhyrfiol ger ein bron yn y Sacrament hwn, adre' at ein calonnau a'n hachos ni ein hunain?

Weithian, gan i mi ymegnio symmud yr ofnau cyfeiliornus, a'r dychryniadau disail, a barodd y gerydd a roddodd St, Paul i'r Corinthiaid, hawdd ydyw dangos, pa beth sy 'n anghenrheidiol i'w wneuthur, fel y cymmunom mewn modd teilwng.

Os ydym yn awyddus i gadw coffadwriaeth am farwolaeth Crist gyd â dïolchus gydnabyddiaeth o'r dyled sydd arnom ni, a chyd â chariad serchog iddo Ef: os ydym yn awyddus i gyhoedd-ddangos, ein bod ni yn credu ynddo Ef: os ydym yn awyddus i gyfaddef yn hyderus o'n gwirfodd, ein bod ni yn ei dderbyn Ef yn Frenhin i ni, yr hwn, y gwnawn ymegnio ufuddhâu i'w gyfreithiau: os ydyw Efe nid yn unig yn ein gwahodd ni i ddyfod ger ei fron Ef gyd â hyder, ond hefyd yn gorchymyn i ni gymmeryd y Sacrament bendigaid hwn: pa ham na wnawn ni dderbyn yr Iachawdwriaeth a gynnygir i ni?Ond os gwna neb ddïystyru Eiriolaeth Jesu Grist, neu os na wna ei drugaredd Ef i'r byd mo'i gynhyrfu i'w garu; os na wna ymostwng i'w Ddwyfol awdurdod, ac os gwrthyd ei gyfryngdod ef, yna na ddeued hwnnw i Swpper yr Arglwydd: gwnai hwnnw gymmunò yn annheilwng: nid oes i hwnnw na rhan na chyfran ym mendithion yr Ordinhâd hon.-Ac er mwyn cyssondeb a diogelwch priodol i'r sawl a fyddo o'i amgylch, yn y meddyl-fryd hwnnw nac ymddangosed byth drachefn mewn cynnulleidfa grefyddol, ac na ddeued i gyrchfannau dynion, ac na ad-ddyrchafed mo'i ddwylaw wrth weddio tu ag at Dduw, yr hwn y mae 'n meddwl cyn lleied am geisio rhyngu bôdd iddo ag ydyw yn ofni ei ddigio. "Gweddi 'r

"annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd.” Ni chymmer Efe mo'r Gwawd, O "Arglwydd, Arglwydd," pan fo 'r galon ddim yn cyd-uno a'r gwefusau.

Os ydych yn ymwrthod â Sacrament Swpper yr Arglwydd, pa ham nad ydych yn ymwrthod 'ch proffes gristianogol, â'ch bedydd, ac â'ch gobaith, na byddwch marw yn dragywydd? Os ydych yn peidio cyflawni 'r ddyledswydd osodedig hon, rhag i chwi etto gyffroi Duw, trwy gymmuno yn annheilwng; pa ham nad ydych, hefyd, yn peidio offrwm eich ymbiliau a'ch bwriadau i wellhâu, rhag i chwi gyffroi Duw, trwy barhau yn gyndyn i fucheddu yn wrthwynebol i ymbiliad eich gweddiau? Onid nesâu at Dduw â'r geneu, a'i anrhydeddu â'r gwefusau ydyw hynny, a'r galon ym mhell oddi wrtho ?— Och! y sawl ni waeth ganddynt pa un a.gymmunont ai peidio, y rhai hynny ni fynnant ofni bygythiad St. Paul rhag cymmuno yn annheilwng. Y sawl sy 'n wirfoddol ac yn ddïofn yn torri 'r gorchymyn a wyddant am dano, trwy fod yn absennol, y rhai hynny ni ddichon barnedigaeth ddychrynu mo honynt rhag cymmuno. Y sawl sy 'n arferol yn dïystyru 'r perygl a'r enbydrwydd o beidio cymmuno, pa berygl ac enbydrwydd o gymmuno a ddichon o gymmuno a ddichon y rhai hynny ofni? Mor gywilyddus ydyw cymmeryd

« PreviousContinue »