Page images
PDF
EPUB

ydyw angeu, gan hynny, yn ein diddymmu, yn rhoddi llwyr-derfyniad ar ein bywiogrwydd a'n creadigaeth; nid ydyw yn dwyn yr hyn oll, a'r sydd werthfawr gennym, oddi arnom yn dragywydd-nid ydyw ond yn unig yn newid ein dull a'n gwêdd, ac yn ein symmud i berffeithiach bywyd; y mae efe megis porth yn ein tywys i gyflawnach perffeithrwydd a dedwyddwch.Geill y babell ddaearol hon falurio yn llwch, ond yr Enaid sydd yn eî bywhâu, a ddychwel at ei Greawdwr ac at ei Dâd nefol. Er i'r tywyllwch ein hamgylchynu; etto yr hyfryd oleuni a wawria. Er i ni golli yr hyn sy'n weledig a diflannedig; etto ni a gawn feddiannu 'r hyn sy'n anweledig ac a bery byth. Ni ddichon angeu, na'r bêdd ychwaith, ddestrywio perffeithiach alluoedd ein meddwl, na daioni pur ein calon; ac ni ddichon ein gwahanu dros byth oddiwrth y rhai, y gwnaeth doethineb a daioni hwy yn gyfeillion i ni. Ac a wnawn ni, yn ofidus ymddychrynu, pan ddelo angeu? A wnawn ni oedi ufuddhau i'w alwad, gan ei fod yn eîn galw ni i fwy dedwyddwch? Na fydded i ni geisio gwneuthur felly: ond bydded ei ddyfodiad fel dyfodiad rhag-flaenor heddwch ini: a'i leferydd fel lleferydd un o'n cyfeillion, yn ein tywys i'n perffeithiach dynghedfenolrwydd, ac yn agoryd y ffordd i ni i'n hîr, i'n nefol gartref!

Dyna fawr effaith yr athrawiaeth, na byddwn marw yn dragywydd, yr hon a ddatguddiwyd trwy Jesu Grist, ac yn ddifrif-ddwys a gadarnhawyd trwy ei adgyfodiad o'r bedd. Dyna ei mawr-effaith i'n meddyliau, ac i'n calonnau : dyna ei mawr effaith wrth fwynhâu boddlonrwydd y bywyd hwn, ac mewn gofidiau poenus: dyna ei mawr effaith tra fyddom byw, a phan byddom feirw!-Rhoddwn, trwy ein hymddygiad, brawf, o'n bod ni yn iawn deimlo, pa mor werthfawr ydyw, o'n bod ni yn iawn deimlo ei heffaith hyfryd ar ein meddyliau, ar ein golygiadau, aç ar ein gobaith. Dangoswn, trwy ein hymddygiad, ein bod ni yn ddiolchgar am y goleuni disglair sy 'n llewyrchu arnom ni-am y sicrwydd sy 'n rhoddi i ni foddlonrwydd ar y testun pwysfawroccaf hwn. Rhoddwn, trwy ein hymddygiad, brawf, o'n bod ni yn glynu wrth yr athrawiaethau Dwyfol yma, ac o'n bod yn wastad yn myfyrio arnynt, ac yn eu dilyn. Meddyliwn, llefarwn, a bucheddwn yn wrol ac yn ffyddlon fel y gwir-dduwiolion, y rhai sy'n credu yng Nghrist, na byddant marw yn dragywydd, ac sy'n disgwyl am fywyd dedwydd anfarwol o addaledigaeth.

Ymnerthwn ac ymgadarnhâwn yn y ffydd wynfydedig hon, yn y meddyliau duwiol, a'r ffyrdd sanctaidd hyn. Os ydyw ein calonnau

yn llawn o hyder a boddlonrwydd, ein hwynebpryd a ddengys ein cynhyrfiadau: nyni a fyddwn yn anfarwol teithio yr ydym tu a bywyd gwell a pherffeithiach. Megis y bu Jesu byw, felly y byddwn ninnau byw, ac ni a fyddwn byth gyd â'n Harglwydd. Y gobaith hwn a rŷdd bwys a chanlyniad mawr ac effaith i'n holl weithredoedd a'n hysprydola â meddyliau cymmwys am ein huchel alwedigaeth:- -a yrr ymaith bob tuedd-fryd aflana bereiddia bod boddlonrwydd a'r a roddir i ni :——ac a esmwythâ bob gofid a'r a ddioddefwn. Nyni, gyd â'r diddanwch yma, wedi ein hysprydoli gan y rhag-olygiadau hyn, a allwn yn wrol ac yn ffyddlon rodio 'r llwybr a'n tywys at ddiwedd ein holl obaith. A phan y safom, heddyw neu y foru, ar fîn y bêdd, nyni, gan edrych ar Jesu Grist, yr hwn a aeth o'n blaen ni, a allwn yn hyderus fyned i'n hîr gartref tragywyddol.

Amen.

PREGETH VII.

AR ANFARWOLDEB.

1 COR. XV. 19.

Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, 'truanaf o'r holl ddynion ydym ni.

If in this life only we have hope in Christ, we are of all men most miserable.

Os ar

S ar y byd yma y rhoddwn ni ein serch; os ym mharhâd byr y bywyd hwn y gobeithiwn; os meddyliwn, mai 'r diben eithaf a fwriadwyd, pan grewyd ni, ydoedd ein disgyblu, ein haddysgu a'n profi ar y ddaear yn unig, heb roddi i ni 'r gobaith, na byddwn marw yn dragywydd; os golygwn ar yr hyn sydd yn bresennol yn unig, ac os dïystyrwn yr hyn a fydd yn dragywyddol; nid rhyfedd fyddai, pe gwnai annhrefn, dychryn, syndod, a thrueni, ein hamgylchynu o bob parth: nid rhyfedd fyddai, pe gwnai ammheuaeth, ofn, a gofid yrru ymaith bob hyfrydwch, gobaith, a hyder. Esgynnwn uwch-law

yr hyn sydd yn weledig a darfodadwy: meddyliwn am y byd a ddaw; ceisiwn wybodaeth am y Tragywyddoldeb sydd etto yn ôl i ni: ac yna, y nifer dirfawr o ofidiau, y rhai yn awr a'n blinant, a ddiflannant : ni a ganfyddwn drefniad doeth, a phrydferthwch rhyfeddol, yng nghreadigaeth y byd: ac ni a gawn weled digon o achos i fod yn foddlongar, ac i ddioddef trallodion y bywyd hwn, gyd ag amynedd a gwroldeb.

Y sawl nid ydyw yn cael ei gynnal gan y gobaith, na bydd yn marw yn dragywydd, os truenus a gresynus ydyw bywyd y dyn hwnnwar y llaw arall, ô! mor hyfryd a llawn o obaith ydyw bywyd a marwolaeth y gwir-gristion, yr hwn sydd, gan hyderu ar addewidion ei Iachawdwr, a chan gredu, iddo Ef adgyfodi, yn byw ac yn hyfryd-ddisgwyl, y caiff yntau hefyd adgyfodi. Edrychwn ar olygfeydd pennaf bywyd y ddau ddyn yma, ac yna ni a gawn ddigon o achos i ddywedyd, gyd â'r Apostol,

[ocr errors]

"os yn y

byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, "truanaf o'r holl ddynion ydym ni."

Y sawl nid oes ganddo ddim gobaith am fywyd tragywyddol, y mae 'r holl greadigaeth i'r dyn hwnnw, megis llyfr wedi ei selio; a'r mwyaf o'r dirgelion, ydyw ei greadigaeth ei hun, Y mae rhag-fwriad ei greadigaeth ei hun, orm

[ocr errors][merged small]
« PreviousContinue »